Mae'r Cyngor yn cynnig diweddariad ar gynllun arfaethedig Cynllun Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon – buddsoddiad trafnidiaeth sylweddol yng ngogledd Cwm Cynon y mae'r Cyngor yn parhau i fod wedi'i ymrwymo iddo. Mae proses gaffael yn mynd rhagddo er mwyn penodi prif gontractwr, gyda gwaith dylunio manwl wedi'i gynllunio i ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Bydd y cynllun arfaethedig yn darparu ffordd gyswllt newydd 1.2 cilometr o hyd fydd yn cysylltu'r A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr (ar bwynt rhwng cylchfannau Trecynon a Phen-y-waun) a'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd (yng Nghroesbychan). Mae gyda'r cynllun strategol yma sawl mantais – cryfhau cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de'r cwm, gwella mynediad ledled yr ardal, lliniaru tagfeydd traffig yn Llwydcoed a llwybrau lleol eraill, ac ategu twf economaidd yng Nghwm Cynon.
Yn gynharach eleni, fe groesawodd y Cyngor ddyraniad sylweddol gwerth £2.01 miliwn er mwyn datblygu'r prosiect yn 2026/27 gan Lywodraeth Cymru drwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roedd hyn yn ychwanegol i'r cyllid gwerth £603,000 gafodd ei ddyrannu yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd a Pheirianneg 2026/27 y Cyngor, a gafodd ei gytuno ym mis Mawrth.
Y newyddion diweddaraf - cynnydd yn cael ei wneud y tu ôl i'r llen
Mae swyddogion wedi dechrau proses gaffael bwysig er mwyn penodi prif gontractwr er mwyn dylunio ac adeiladu'r prosiect yn y dyfodol, ac er mwyn gwireddu'r buddsoddiad sylweddol yma er budd cymunedau lleol. Mae disgwyl i'r broses yma ddod i ben ac i'r contract terfynol gael ei ddyrannu yn 2027 – bydd y Cyngor yn rhannu'r newyddion diweddaraf am gynnydd y broses yma gyda thrigolion.
Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd y Cyngor yn penodi contractwr er mwyn datblygu dyluniad manwl y cynllun. Yn amodol ar gynigion y contractwr, bydd y cam yma yn cynnwys y gweithgarwch cyntaf ar lawr gwlad, gyda gwaith pellach yn cynorthwyo'r cam dylunio.
Mae'r Cyngor yn parhau i fod wedi'i ymrwymo i gyflawni'r cynllun yma yn y dyfodol, er mwyn gwella cysylltedd a hybu twf yn y dyfodol. Mae'r prosiect wedi cael ei ddiwygio yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd fis Chwefror 2023, er mwyn gofalu ei fod yn cyd-fynd yn agos â Pholisi Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Isadeiledd Cyfalaf a'r Amgylchedd: "Yn dilyn dyraniadau cyllid ar wahân gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon drwy gydol 2026/27, mae'r diweddariad cynnydd diweddaraf yma yn edrych ymlaen at y garreg filltir sylweddol nesaf. Mae swyddogion wedi dechrau ar broses gaffael sylweddol er mwyn penodi prif gontractwr fydd yn gyfrifol am ddarparu'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yma. Unwaith y bydd y contract wedi'i ddyrannu'r flwyddyn nesaf, bydd modd i'r cam dylunio manwl ddechrau, ac mae modd i hyn gynnwys y gwaith cyntaf ar y safle er mwyn cynorthwyo â'r gwaith dylunio manwl.
"Hoffwn i roi sicrwydd i drigolion bod y Cyngor yn parhau i fod wedi'i ymrwymo yn llwyr i'r cynllun yma, tra ei fod hefyd yn rhan allweddol o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol pum mlynedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Rydyn ni'n deall bod y prosiect yn hanfodol er mwyn gwella cysylltedd, er mwyn hybu twf economaidd yng Nghwm Cynon, ac er mwyn mynd i'r afael â heriau trafnidiaeth mewn cymunedau cyfagos. Er enghraifft, bydd y cynllun yn lleihau tagfeydd traffig ac yn gwella diogelwch ar y ffyrdd yn Llwydcoed.
"Mae gyda ni hanes ardderchog o gyflawni prosiectau trafnidiaeth sylweddol – megis cwblhau cynlluniau deuoli'r A4119 Coed-elái a Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm Aberpennar yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni'n datblygu Cynllun Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon ochr yn ochr â Choridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan ar hyn o bryd, gyda'r ddau gynllun yn cael eu diwygio yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd. Diolch i gymunedau am eich amynedd wrth i'r prosiectau diwygiedig gael eu datblygu. Mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd yr amser i sicrhau bod y cynlluniau yn cael eu datblygu yn y ffordd orau posib, er mwyn iddyn nhw fodloni'r heriau trafnidiaeth presennol a chael eu cyflawni yn y modd sy'n cael yr effaith orau.
"Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â phob carreg filltir allweddol sy'n ymwneud â Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon, gan gynnwys newyddion am benodiad y prif gontractwr – mae disgwyl cyhoeddi hyn yn ystod y cyfnod sydd i ddod."
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 03/09/2026