Cyflwyno cais am le mewn ysgol

Mae angen gwneud ceisiadau am le mewn ysgol ar gyfer cyfnodau gwahanol yn addysg plentyn. Dyma nhw – Cyn-feithrin; Dosbarth Meithrin; Dosbarth Derbyn; Trosglwyddo o'r ysgol babanod i’r ysgol iau ac Ysgol Uwchradd.

Nodwch: Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau.  Os nad oes mynediad gyda chi i'ch cyfrifiadur/gliniadur eich un, mae modd i chi ddefnyddio un am ddim yn un o'n Llyfrgelloedd.

Os ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (yr eglwysi), gwnewch eich cais yn uniongyrchol i'r ysgol benodol.  Mae'r manylion cyswllt i gyd i'w cael yn Llyfryn Dechrau'r Ysgol 2024-25

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Er mwyn cysylltu â'r Garfan Derbyn Disgyblion ffon 01443 281111 tan ebostiwch schooladmissions@rctcbc.gov.uk

Ar gyfer pob math o ohebiaeth ysgrifenedig, byddwch cystal â defnyddio:- Rhadbost Derbyn Disgyblion CBSRhCT

Find-a-school
Dewch o hyd i ysgol gan ddefnyddio ein cyfleusterau chwilio ar-lein.
Apply

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y daith i addysg Gymraeg.

Apply
Mae hawl gan bob plentyn
i fanteisio ar ddarpariaeth addysg Feithrin ran-amser o ddechrau'r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed
Apply

Mae gan bob plentyn hawl i le addysg feithrin o'r mis Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed.

Apply

Bydd plant yn dechrau yn y dosbarth derbyn mewn ysgolion babanod neu ysgolion cynradd yn y mis Medi ar ôl iddyn nhw droi'n 4 oed.

Apply

Pan fydd plant ym Mlwyddyn 2 yn yr ysgol fabanod, bydd angen gwneud cais am le mewn ysgol gynradd neu ysgol iau.

Apply
Bydd plant yn dechrau Ysgol Uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.
Find-a-school
Dod o hyd i ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer y blynyddoedd cynnar

Ydych chi’n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn? Mae ein llyfryn yn cynnwys manteision o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ac yn trafod rhai pryderon cyffredin sydd gan rieni. - Llyfryn Bod yn Ddwyieithog

Mae Fforwm Derbyn Rhondda Cynon Taf yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau system dderbyn deg sy'n hawdd ac yn syml i rieni ei deall.