Ar hyn o bryd mae aflonyddwch i rai gwasanaethau'r Cyngor oherwydd tor-gwasanaeth eang ym Microsoft Outlook sy'n effeithio ar sefydliadau ledled y byd.
Efallai bydd hyn yn effeithio ar ein gallu i anfon a derbyn negeseuon e-bost, sy'n golygu efallai bydd oedi wrth ymateb i ymholiadau a chyfathrebu â thrigolion. Efallai y bydd rhai gwasanaethau'r Cyngor hefyd yn wynebu aflonyddwch.
Mae gyda ni drefniadau parhad busnes ar waith i leihau aflonyddwch a chynnal gwasanaethau rheng flaen.
Rydyn ni'n gofyn i drigolion osgoi cysylltu â'n Canolfan Alwadau dros y ffôn oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod modd i'r rhai sydd angen cymorth brys ein ffonio.
Oeddech chi'n gwybod bod modd ichi wneud y rhan fwyaf helaeth o bethau mae angen eu gwneud gyda'r Cyngor yn uniongyrchol ar ein gwefan, heb orfod ffonio na anfon e-bost aton ni?
Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael i'ch helpu i ddefnyddio gwasanaethau'r Cyngor yn gyflym ac yn gyfleus, gan gynnwys:
Ewch i'n gwefan lle bynnag y bo modd yn hytrach na ffonio ein Canolfan Alwadau.
Rydyn ni'n cadw llygad ar y sefyllfa a byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf os oes angen.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Wedi ei bostio ar 13/11/2026