Dechreuwch ar eich taith i fod yn heini'r Hydref yma, gydag amserlen Hamdden am Oes gyffrous sy'n siŵr o gael pawb yn symud. Ymunwch nawr i gymryd mantais o'r pris gostyngol!
Dewiswch ymhlith ein 50 dosbarth sy'n cael eu cynnal ar draws naw canolfan Hamdden am Oes bob wythnos ym mis Hydref a Thachwedd. Talwch £4 fesul dosbarth (Pris consesiwn £2*). Mae modd ichi fynychu cynifer o ddosbarthiadau ag y mynnwch chi, mewn unrhyw ganolfan, drwy gydol cyfnod y cynnig.
Does dim costau ymuno, dim ffioedd sefydlu a does dim angen bod yn aelod. Dyma ymarfer heb rwymedigaethau! Yn syml, dewiswch y dosbarth neu ddosbarthiadau a mwynhewch!
Mae arbenigwyr ymarfer corff Hamdden am Oes wedi paratoi'r amserlen i sicrhau bod amryw o ddosbarthiadau ar gael ar gyfer cynifer o bobl â phosibl, waeth beth eu hoedran neu lefelau ffitrwydd. Mae'r amserlen yn cynnwys y dosbarthiadau mwyaf poblogaidd ac effeithiol.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r cynnig yma'n berffaith i'r rhai sydd ddim yn aelodau Hamdden am Oes er mwyn iddyn nhw fwynhau'r ystod eang o ddosbarthiadau ffitrwydd am bris rhad iawn.
"Mae modd i unigolion ddewis a dethol pa ddosbarth a pha ganolfan y maen nhw eisiau eu mynychu er mwyn mwynhau'r cynnig.
"Mae dosbarthiadau ffitrwydd yn parhau i fod yn boblogaidd gyda'n haelodau Hamdden am Oes - rydyn ni'n cynnig cannoedd o ddosbarthiadau bob wythnos. Mae mynychu dosbarth ffitrwydd yn ffordd effeithiol i gadw'n heini, gwireddu'ch nodau lles a chael hwyl.
"Mae'r dosbarthiadau'n para rhwng 30 munud ac awr ac yn cael eu harwain gan hyfforddwr cymwysedig. Mae ymuno â dosbarth yn ffordd wych o sicrhau'ch bod chi'n symud eich corff gan fwynhau cwrdd â phobl newydd a bod yn gymdeithasol.
"Mae dosbarth at ddiben pawb diolch i'r ffaith bod y dosbarthiadau'n rhedeg o fore gwyn tan nos, felly mae modd i’r unigolion ddewis dosbarth ar amser a dwysedd sy'n gyfleus iddyn nhw.
"Mae'r dosbarthiadau rydyn ni wedi’u dewis ar gyfer cynnig yr Hydref a'r Gaeaf yn ddosbarthiadau poblogaidd. Mae opsiynau dwysedd isel a dosbarthiadau ar gyfer pobl ifainc felly mae modd i bawb ymuno yn yr hwyl, waeth beth eu hoedran neu eu lefel ffitrwydd."
Mae'r dosbarthiadau'n cynnwys:
- Coesau, penolau a boliau
- Ymarferion Cylch ac Ymarferion Cylch dwysedd isel
- Body Pump
- Zumba
- KO8 a KO8 i blant iau
- Ffitrwydd Ymarferol
- HIIT (Ymarfer dwysedd uchel)
- Pwysau Kettlebell
- Blast i’r Corff
Bydd y dosbarthiadau'n cael eu cynnig yn y canolfannau Hamdden am Oes isod bob wythnos:
Bwriwch olwg ar yr amserlen lawn yma:
Mae pob dosbarth yn costio £4 y person. Byddwch chi’n talu llai os ydych chi o dan 16 oed neu dros 60 oed, yn gynhaliwr neu'n derbyn budd-daliadau.
Cost arferol y dosbarthiadau Hamdden am Oes ydy £6, neu bris consesiwn yw £3.60. Dim ond dosbarthiadau Heini'r Hydref (ar yr amseroedd sydd wedi'u nodi ar yr amserlen) sy'n rhan o'r cynnig yma.
Mae modd ichi fynd i ddosbarthiadau eraill, sydd ddim ar yr amserlen neu sy'n digwydd ar amser gwahanol i'r hyn wedi’i nodi ar yr amserlen, ond bydd rhaid i chi dalu'r ffioedd arferol ar gyfer y dosbarthiadau yma.
Wedi ei bostio ar 28/09/2023