Mae calendr achlysuron 2025 ar gael a bydd rhai o'ch hoff achlysuron yn ôl unwaith eto! Mae rhywbeth ar gyfer pob tymor ac eleni, yn ôl yr arfer, yr achlysur cyntaf fydd Ŵy-a-sbri'r Pasg. Yno, bydd Bwni'r Pasg yn dychwelyd i'w gynefin yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar 24 a 25 Ebrill. Bydd tocynnau ar werth trwy wefan www.parctreftadaethcwmrhondda.com - cadwch lygad allan ar dudalen Faceboook, Instagram ac 'X' @whatsonrct i gael gwybod pryd bydd tocynnau ar werth.
Bydd Gŵyl Aberdâr yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 24 Mai eleni, a bydd yna gerddoriaeth byw, adloniant i blant a hwyl a sbri yn y ffair! Mae modd trefnu stondin ar gyfer yr achlysur trwy lenwi'r ffurflen gais sydd ar gael ar www.gwylaberdar.co.uk
Mae 8 Mai yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop - diwrnod olaf yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Byddwn ni'n ymuno â dathliad cenedlaethol wrth i oleufâu gael eu goleuo ledled y DU i goffáu'r diwrnod arbennig yma. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer achlysur dathlu ym Mharc Coffa Ynysangharad ar 10 Mai 2025. Bydd rhagor o wybodaeth am y seremoni goleuo'r goleufâu a'r achlysur dathlu ar gael yn nes at yr amser.
Byddwn ni'n dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Rhondda ar gyfer dechrau tymor yr haf ar 28 Mehefin ar gyfer y Sioe Ceir Clasur boblogaidd. Achlysur perffaith i'r rheiny ohonoch ch sy'n dwlu ar geir clasur!
Ewch i Barc Coffa Ynysangharad ym mis Awst i fwynhau danteithion blasus ac adloniant! Ar ôl seibiant y llynedd, mae ein hachlysur blaenllaw, Cegaid o Fwyd Cymru, yn dychwelyd unwaith yn rhagor ar 2 a 3 Awst. Cadwch lygad allan am y newyddion diweddaraf a gwnewch gais am stondin nawr ar wefan www.cegaidofwydcymru.co.uk
Dewch i deimlo ofn ar 29 a 30 Hydref wrth i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ddathlu Calan Gaeaf yn Rhialtwch Calan Gaeaf.
Mae dechrau mis Tachwedd yn amser i gofio wrth i wasanaethau a chyngherddau gael eu cynnal ledled y wlad i goffáu cyfraniad dynion a menywod lluoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad yn y ddau Ryfel Byd a rhyfeloedd diweddarach. Bydd Gŵyl Gofio yn cael ei chynnal ar 1 Tachwedd a bydd rhagor o fanylion am y gyngerdd yma'n cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd yn cael eu cynnal ar 9 Tachwedd.
Mae'r flwyddyn brysur yma'n gorffen gyda dathliadau'r Nadolig a'r Rasys Nos Galan byd-enwog. Bydd Ogof Siôn Corn yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda rhwng 22 Tachwedd a Noswyl Nadolig a bydd achlysuron Nadoligaidd yn cael eu cynnal yng nghanol ein trefi drwy gydol Tachwedd a Rhagfyr. Caiff tân gwyllt eu cynnáu i ddathlu'r rhedwyr hynny fydd yn cymryd rhan yn Rasys Nos Galan yng nghanol tref Aberpennar. Pwy fydd y Rhedwr Dirgel yn 2025? Galwch heibio i gael gwybod!
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: 
Mae'r calendr achlysuron yn fwy llawn nag erioed yn 2025. Daeth dros 250,000 o drigolion ac ymwelwyr i fwynhau achlysuron yn 2024 a oedd wrth gwrs yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn dychwelyd eleni i fwynhau'r achlysuron gwych sydd gyda ni i'w cynnig yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae Cegaid o Fwyd Cymru a Gŵyl Aberdâr yn boblogaidd bob blwyddyn – yn ogystal â'n hachlysuron sy'n addas i deuluoedd! Rydyn ni'n gobeithio gweld rhagor o drigolion yn dod i fwynhau beth sydd i'w gynnig drwy gydol y flwyddyn yn Rhondda Cynon Taf. Mae cymaint i'w weld yn ein parciau a lleoliadau drwy gydol y flwyddyn. Rwy'n edrych ymlaen at flwyddyn arbennig o adloniant yn 2025!
Dyma'r rhaglen lawn ar gyfer 2025:
| Achlysur | Canolfan/Swyddfa | Dyddiad | 
| Achlysur Ŵy-a-sbri | Parc Treftadaeth Cwm Rhondda | 24 a 25 Ebrill | 
| 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE Day) | Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd | 10 Mai | 
| Gŵyl Aberdâr | Parc Aberdâr | 24 Mai | 
| Sioe Ceir Clasur | Parc Treftadaeth Cwm Rhondda | 28 Mehefin | 
| Cegaid o Fwyd Cymru | Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd | 2 a 3 Awst | 
| Rhialtwch Calan Gaeaf | Parc Treftadaeth Cwm Rhondda | 29 - 30 Hydref | 
| Gŵyl Goffa | I'w gyhoeddi | 1 Tachwedd | 
| Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd | Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd | 9 Tachwedd | 
| Ogof Siôn Corn | Parc Treftadaeth Cwm Rhondda | 22 Tachwedd – 24 Rhagfyr | 
| Y Nadolig yng nghanol ein trefi | Lleoliadau amrywiol yn Rhondda Cynon Taf | Tachwedd a Rhagfyr | 
| Rasys Nos Galan | Aberpennar | 31 Rhagfyr | 
 
I gael y newyddion diweddaraf, cyhoeddiadau a rhagor, dilynwch @whatsonrct ar Facebook, Instagram ac 'X'.
			Wedi ei bostio ar  27/01/2025