Mae Pwll a Champfa Bronwydd Porth yn dathlu 30 mlynedd ers ei agoriad swyddogol - dewch i ymuno â'r parti pen-blwydd mawr!
O 11am – 12pm i 12pm – 1pm i ddydd Sul, Mawrth 23, bydd pwll nofio’r ganolfan yn rhad ac am ddim i bawb ei ddefnyddio. Bydd y tegan chwyddadwy allan ar gyfer rhai sesiynau ac mae'n gyfle i bobl ddathlu carreg filltir y ganolfan.
Cadwch lygad am docynnau dathlu sy’n cael eu dosbarthu’n lleol, gan gynnig cyfle i’r rhai nad ydyn nhw'n aelod o’r ganolfan ar hyn o bryd i fwynhau sesiwn nofio neu gampfa am ddim, fel y gallan nhw weld drostyn nhw eu hunain yr hyn maen nhw'n ei golli!
Peidiwch â phoeni os byddwch chi'n colli'r hwyl dros y penwythnos, mae’r dathliadau’n siŵr o barhau drwy’r flwyddyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Pwll Bronwydd ar Facebook ac Instagram am y newyddion a’r cynigion diweddaraf.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Penblwydd Hapus i Bwll a Champfa Bronwydd! A diolch yn fawr iawn i'w holl gwsmeriaid gwych dros y blynyddoedd sydd wedi helpu i'w wneud yn gymaint o lwyddiant.
“Bydd y dathliadau hyn unwaith eto yn dangos pa mor arbennig yw’r ganolfan. Hithau'n swatio mewn ardal breswyl, gyda'r parc syfrdanol ar ei charreg drws, mae'n lle gwych i hyfforddi a nofio.
“Mae’r ffaith ei fod wedi mynd o nerth i nerth ers iddi agor yn swyddogol ym 1985 yn dyst i hynny.
“Rydym ni'n croesawu aelodau newydd o bob oed a gobeithiwn y byddwch chi'n manteisio ar y tocynnau Parti Penblwydd Mawr i ddod draw i roi cynnig ar Bronwydd drosoch eich hun.”
Ar 24 Mawrth, 1985 agorwyd pwll newydd Bronwydd i'r cyhoedd, atyniad gwahanol iawn i hen Bwll awyr agored y Porth.
Am ddegawdau, bu’r pwll awyr agored yn lle o hwyl, hyfforddiant a chystadlaethau ac mae trigolion yn ei gofio hyd heddiw.
Er mwyn sicrhau cyfleusterau hamdden ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, dechreuodd prosiect adeiladu enfawr i greu pwll dan do a champfa, sydd wedi’u hadnewyddu a’u datblygu dros amser i ddod yn bwll a champfa Bronwydd heddiw.
Mae bellach yn ganolfan fywiog a modern sy'n cynnig amserlen pwll llawn, gan gynnwys sesiynau nofio ben bore am 6.00, erobeg dŵr, nofio am ddim i'r teulu ar benwythnosau a gwersi nofio, yn ogystal â champfa â pheiriannau da.
Yng nghanol Caemawr, yn tremio ar y dref, mae'r ganolfan wrth un o'r mynedfeydd i Barc Bronwydd hardd, a roddwyd i bobl y dref gan berchennog Ffatri Thomas ac Evans ar y pryd yn Stryd Jenkins.
Mae’r ffatri’n fwy adnabyddus fel y Ffatri Bop, oherwydd dyma’r lle y cafodd y diodydd pefriog enwog mewn poteli gwydr eu gwneud a’u dosbarthu ymhell ac agos.
Mae Bronwydd yn un o 12 canolfan Hamdden am Oes ar draws Rhondda Cynon Taf, pob un â'i hapêl, ei chyfleusterau a'i hamserlenni ei hun.
Os byddwch chi'n dod yn aelod o Hamdden am Oes, gallwch chi ddefnyddio unrhyw rai – neu bob un – o’r canolfannau hyn mor aml ag y dymunwch! Mae aelodaeth yn cynnwys sesiynau di-derfyn yn y gampfa, nofio (gan gynnwys gwersi), dosbarthiadau ffitrwydd, archebion chwaraeon dan do a sesiynau yn yr ystafelloedd iechyd.
Gallwch ddewis a dethol canolfannau yn dibynnu ar oriau agor a'r hyn sydd ar gael o ran eich dewisiadau nofio neu ddosbarth ffitrwydd. Mae'r ystod o ganolfannau'n golygu bod rhywbeth ar gael o'r bore bach hyd at hwyr y nos, sy'n cyd-fynd â'ch bywyd cadw'n heini, personol a'r gwaith.
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am aelodaeth yma.
Peidiwch ag anghofio, mae Hamdden am Oes yn cynnig aelodaeth gostyngol i bobl iau (dan 18) a'r henoed (dros 60), yn ogystal â phrisiau gostyngol ar gyfer aelodaeth i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau cymwys. Dyma ragor o wybodaeth:
Rydyn ni hefyd yn cynnig aelodaeth lai i'r rhai sy'n gweithio i'n partneriaid corfforaethol neu'r rhai sy'n gweithio mewn unrhyw fusnes/sefydliad yn ein hardaloedd peilot Aelodaeth Canol Tref ym Mhontypridd, Tonyrefail a Llantrisant/Tonysguboriau. Rhagor o wybodaeth yma:
Gall deiliaid Cerdyn Golau Glas fanteisio ar brisiau gostyngol ar gyfer talu wrth fynd a phrisiau aelodaeth – mwy yma:
Gall aelodau o’n Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol sicrhau mynediad hamdden am ddim neu am bris gostyngol. Rhagor o wybodaeth yma:
Wedi ei bostio ar 18/03/2025