Skip to main content

Mae Hamdden am Oes yn cyfarch Deb a Kattie

Untitled design (66)

"Byddwch y math o berson yr oeddech chi ei angen pan oeddech chi'n ei chael hi'n anodd".

Dyna'r neges bwerus gan ddwy fam anhygoel a ymunodd â Chanolfan Hamdden y Ddraenen-wen i helpu i ymdopi â'r heriau yr oedden nhw'n eu hwynebu wrth fagu plant anabl – ac a greodd fudiad o garedigrwydd, cyfeillgarwch ac anogaeth.

Wrth i Ganolfan Hamdden y Ddraenen-wen ddathlu ei phen-blwydd yn 50 y mis yma, mae'r menywod – sydd bellach yn ffrindiau gorau – wedi siarad am sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy nag yr ydych chi'n ei sylweddoli.

Mae'r ddwy yn dyst i'r amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a meithringar yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-wen – a dyna pam mae'r ganolfan a'i chwsmeriaid yn parhau i ffynnu, hanner canrif ar ôl i'w drysau agor.

Doedd Debbie Jones a Kattie Roberts ddim yn adnabod ei gilydd pan gafodd y ddwy ohonyn nhw foment "rhaid i mi wneud rhywbeth yn wahanol", a phenderfynu gwneud newidiadau personol i'w helpu i "ailddarganfod" eu hunain eto ar ôl blynyddoedd yn rheoli'r straen a'r ynysigrwydd cymdeithasol y mae modd eu profi wrth ofalu am blentyn anabl.

Roedd Debbie, o bentref Rhydfelen, yn magu plentyn ag anghenion ychwanegol ar ei phen ei hun ac roedd hyn, yn ogystal â'r cyfyngiadau symud diddiwedd yn ystod COVID-19, wedi ei gadael hi i deimlo wedi'i llethu ac yn unig, gan ddinistrio ei hyder a'i hymdeimlad o’i hun.

Yn y cyfamser mewn cartref arall, ddim yn bell i ffwrdd, roedd Kattie,  hefyd yn magu plentyn ag anghenion ychwanegol ac roedd hi'n teimlo ar goll, yn isel ei hysbryd ac yn ei chael hi'n anodd ar ôl colli ei swydd.

Y cyntaf i fentro i’r ganolfan oedd Debbie, pan ddechreuodd hi fynychu dosbarthiadau yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-wen. Wrth iddi ddechrau magu hyder, dechreuodd hi roi heriau a negeseuon ysbrydoledig ar ei chyfryngau cymdeithasol – gan ddenu sylw Kattie, a ofynnodd a fyddai modd iddi hi ymuno.

Roedd gwybod bod rhywun yn aros amdani yn y dosbarth yn gymhelliant i Kattie a daeth hithau hefyd yn ymwelydd rheolaidd â Chanolfan Hamdden y Ddraenen-wen, gan fwynhau dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau yn y gampfa.

Yn unigol, mae'r ddwy'n fenywod cryf, ond pan ddaethon nhw at ei gilydd fel pâr o ffrindiau, fe wnaethon nhw greu rhywbeth sydd wedi newid bywydau llawer o bobl.

Mae'r ddwy ohonyn nhw wedi ailddarganfod eu hyder, eu cariad at symud a'u hymdeimladau o "hunan" ac maen nhw hefyd wedi annog ac ysbrydoli eraill.

Bellach mae grŵp mawr o gwsmeriaid, o bob cefndir, sy'n dod i'r Ddraenen-wen oherwydd eu bod wedi gweld Debbie a Kattie, naill ai ar-lein neu yn y ganolfan, ac wedi teimlo eu bod yn cael croeso cynnes ac yn gallu ymuno, gan wybod y bydd wyneb cyfeillgar a rhywun i helpu pan fyddan nhw'n cyrraedd.

“Mae’n anhygoel y gwahaniaeth mae’n ei wneud pan fyddwch chi’n gwybod bod gyda chi wyneb cyfeillgar i hyfforddi gydag ef yn y gampfa,” meddai Debbie.

“Dechreuais mewn dosbarthiadau ffitrwydd ac roeddwn i mor nerfus. Fe wnes i rai heriau ar fy nhudalen cyfryngau cymdeithasol fy hun hefyd a dechreuodd pobl eraill eu gweld nhw. Fe ges i ychydig o ddilynwyr a byddai pobl yn gofyn a fyddai modd iddyn nhw ymuno â mi yn y gampfa neu mewn dosbarth ffitrwydd fel eu bod yn gwybod bod gyda nhw rywun y gallen nhw ymarfer corff gydag ef. Dyna sut y gwnes i gwrdd â Kattie a dyna sut y dechreuodd y cyfan.”

Ychwanegodd Kattie: “Gwelais i Debbie ar ei thudalen cyfryngau cymdeithasol. Roedd hi'n ymddangos fel menyw mor hyfryd ac yn wirioneddol gadarnhaol. Pan ges i fy niswyddo, doedd gen i ddim byd i'w wneud a dywedodd fy ngŵr wrtha i ymuno â'r gampfa, felly fe wnes i. Roeddwn i'n teimlo ar goll ac yn nerfus, doeddwn i ddim yn adnabod neb.

“Siaradais â Debbie a dyna ni. Nawr rydyn ni'n hyfforddi gyda'n gilydd, yn mynd i ddosbarthiadau gyda'n gilydd ac mae gyda ni lawer o bobl yn gofyn a oes modd iddyn nhw ymuno â ni, sy'n wych. Dydw i byth eisiau i neb deimlo'r un fath ag oeddwn i'n teimlo amdanaf i fy hun.

"Rydyn ni'n gwneud heriau, rydyn ni'n ymarfer corff, rydyn ni'n chwerthin ac yn cael hwyl. Mae'n wych. Mae gyda ni grŵp Whatsapp lle rydyn ni'n gosod heriau newydd i'n gilydd ond, yr un mor bwysig, rydyn ni'n ffrindiau i'n gilydd, yn cynnig cefnogaeth, cymdeithasu ac mae modd i ni fynegi ein teimladau. Dydych chi byth yn gwybod beth mae pobl yn mynd drwyddo y tu ôl i'w hwynebau dewr.

“Rydyn ni wedi cael cynifer o bobl sydd wedi ein gweld ni yn y ganolfan neu yn y gampfa, sydd wedi gofyn a oes modd iddyn nhw ymuno â ni. Rydyn ni bob amser yn dweud ie – po fwyaf, gorau oll!”

Mae Debbie a Kattie yn cytuno bod rhianta plentyn ag anghenion ychwanegol yn unig. Mae rhieni plant anabl yn addasu eu harferion bob dydd i ddiwallu anghenion y plentyn hwnnw, sy'n golygu eu bod nhw'n colli allan ar y ffyrdd "traddodiadol" o gwrdd â ffrindiau, megis mewn achlysuron yn yr ysgol, mabolgampau, tripiau ysgol a phartïon pen-blwydd.

Mae heriau magu plentyn anabl, yn enwedig ar eich pen eich hun, yn golygu nad oes gyda chi'r amser na'r seibiant yn aml i allu ymuno â gweithgareddau cymdeithasol y tu allan i'ch rôl rianta.

Esboniodd Debbie: “Roeddwn i yn y tŷ ar fy mhen fy hun am flynyddoedd yn ystod y pandemig, dim ond fi a fy merch. Collais fy hun. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy oeddwn i heblaw am “mam” a doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau nes i mi benderfynu ymuno â Hamdden am Oes.

Ychwanegodd Kattie: "Dydw i byth eisiau i unrhyw un arall deimlo'r ffordd yr oeddwn i'n ei deimlo. Mae yna ddywediad y dylech chi bob amser fod y person caredig i eraill yr oeddech chi ei angen eich hun ac rwy'n cadw at hynny.

“Rwy’n caru’r ffaith ein bod ni’n ehangu ein cylch ac yn cael cymaint o hwyl gyda’n gilydd – mae lle i fwy bob amser felly cysylltwch os hoffech chi roi cynnig ar hyn.

“Rydyn ni bob amser mewn dosbarthiadau neu yn y gampfa felly peidiwch â gadael i'r ffaith nad ydych chi'n adnabod unrhyw un fod yn rhwystr i chi. Dewch i ymuno â ni!"

Mae Debbie a Kattie yn hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-wen, un o 12 canolfan Hamdden am Oes y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn eu darparu ar ran ei gymunedau, gan gynnig cyfleoedd hamdden hygyrch o ansawdd uchel i bawb.

O wersi nofio cyntaf babanod i ddosbarthiadau llai heriol i helpu'r rhai sy'n gwella o salwch neu anaf, mae rhywbeth i bawb, gyda champfa, pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, cyfleusterau chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd yn cael eu cynnig ar draws y gwasanaeth – a'r cyfan ar gael trwy un aelodaeth bellgyrhaeddol.

Louise Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymuned o Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Debbie a Kattie yn bâr rhyfeddol ac mae'n hyfryd gallu dathlu 50 mlynedd o Ganolfan Hamdden y Ddraenen-wen gyda nhw – nhw yw’r union reswm pam mae'r ganolfan yma'n mynd o nerth i nerth ar ôl yr holl flynyddoedd yma.

“Mae croeso ac anogaeth i bobl o bob cefndir gymryd rhan a, chyn pen dim, mae grŵp cyfeillgarwch newydd sbon wedi’i ffurfio.

“Rydw i mor falch bod Debbie a Kattie yn ffynnu ar eu teithiau Hamdden am Oes eu hunain, ond hefyd yn creu lle hwyliog a chroesawgar i eraill. Dyna beth yw Hamdden am Oes. Maen nhw'n fwy na champfeydd. Maen nhw wrth wraidd y gymuned.

“Mae croeso i bobl o bob cefndir ac mae ein staff wrth law i’ch dangos chi o gwmpas a’ch helpu chi i gymryd rhan. Maen nhw wrth eu boddau pan fydd cwsmeriaid, sydd wedi goresgyn a ffynnu fel Debbie a Kattie, yn defnyddio eu profiadau i helpu eraill.

“Mae yna dorf eithaf mawr yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-wen nawr, yn helpu ei gilydd, yn herio ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd trwy gyfnodau da a drwg bywyd. Mae modd gweld cylchoedd cyfeillgarwch fel y rhain ar draws ein holl ganolfannau, maen nhw wir yn lleoedd gwych i fod. Os nad ydych chi erioed wedi ymweld ag un o'r blaen, mae eich sesiwn gyntaf yn y gampfa, sesiwn nofio neu ddosbarth ffitrwydd cyntaf am ddim, felly galwch heibio a rhoi cynnig arni!" 

Mae Hamdden am Oes yn cynnig mynediad diderfyn i'r pyllau nofio, campfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd, cyfleusterau chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd mewn 12 canolfan. Mae modd i chi fwrw golwg ar yr holl gampfeydd yma.

Mae mynediad diderfyn wedi'i sicrhau trwy un aelodaeth fisol (neu flynyddol) hawdd. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Mae aelodaeth ratach ar gael i'r rhai sy’n 60 oed a hŷn, 18 oed ac iau, myfyrwyr llawn amser, cynhalwyr cofrestredig a'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau cymwys. Dyma ragor o wybodaeth:

Caiff aelodaeth fisol is a phrisiau talu wrth fynd hefyd eu cynnig i'r rhai sydd â Cherdyn Golau Glas a'r rhai sydd â cherdyn Amddiffyn y Lluoedd Arfog.

Mae Hamdden am Oes hefyd yn gweithredu Aelodaeth Gorfforaethol. Os ydych chi'n gweithio i un o'n partneriaid corfforaethol (mae modd bwrw golwg ar y rhestr yma), neu’n aelod o un ohonyn nhw, mae modd i chi ac un person arall sicrhau aelodaeth hamdden am oes am bris rhatach. Caiff yr Aelodaeth Gorfforaethol hefyd ei chynnig, ar ffurf aelodaeth Canol Tref, i unrhyw un sy'n gweithio mewn busnes, neu'n berchen ar fusnes, ym Mhontypridd, Llantrisant a Thonysguboriau. Rhagor o wybodaeth yma:

Wedi ei bostio ar 16/04/2026