Dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae'n ddyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ei rôl fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA), i ymchwilio a chyhoeddi adroddiadau ar ddigwyddiadau llifogydd sy'n digwydd yn ei ardal i’r graddau y mae’n ystyried bod hynny’n angenrheidiol neu’n briodol.
Mae adran 19 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn darparu bod:
1. On becoming aware of a flood in its area, a lead local flood authority must, to the extent that it considers it necessary or appropriate, investigate:
(a) which risk management authorities have relevant flood risk management functions, and
(b) whether each of those risk management authorities (RMAs) has exercised, or is proposing to exercise, those functions in response to the flood.
2. Where an authority carries out an investigation under subsection (1) it must:
(a) publish the results of its investigation, and
(b) notify any relevant risk management authorities
Mae'r adroddiadau ymchwilio i lifogydd yn cynnwys:
- Gwybodaeth gefndir am leoliad llifogydd
- Crynodeb o ddigwyddiad y glawiad
- Gwybodaeth ar faint y llifogydd
- Canlyniadau'r Archwiliad
- Rolau a chyfrifoldebau pob Awdurdod Rheoli Risg a'r camau oedd wedi'u cymryd neu eu cynnig gan yr Awdurdodau hynny
- Camau gweithredu cafodd eu hargymell yn dilyn yr archwiliad
Mae’r adroddiadau ymchwilio i lifogydd canlynol wedi’u cynnal o dan adran 19 ac felly yn unol â adran 19 para 2. (a) wedi’u cyhoeddi.
Lawrlwythiadau Archwiliadau Llifogydd