Skip to main content

Cymorth ar gael wrth i'r tymheredd ostwng

Winter weather centres CYM

Wrth i dywydd y gaeaf oeri ac wrth i’r tymheredd barhau i blymio islaw’r rhewbwynt, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i roi cymorth i'n holl drigolion drwy'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf a thu hwnt. 

Os bydd angen lle diogel i gadw'n gynnes yn ystod y tywydd oer, galwch heibio i un o'r 92 o ganolfannau ledled Rhondda Cynon Taf.

Bydd y Canolfannau Croeso yn y Gaeaf yn cynnig croeso cynnes i chi, a bydd rhai Canolfannau yn cynnig: 

  • Paned cynnes a byrbrydau
  • Mannau i wefru eich ffôn symudol
  • Cyngor rhad ac am ddim ar bynciau yn ymwneud â biliau ynni, cymorth ariannol, neu iechyd a lles 
  • Gweithgareddau am ddim

Hyd yn hyn, mae tua 3100 o drigolion wedi manteisio ar y Canolfannau. 

Mae POB llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol yn gweithredu fel Canolfannau Croeso yn y Gaeaf, ac rydych chi'n sicr o dderbyn croeso cynnes a lle i ymlacio a gwefru eich ffonau symudol. 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Rydyn ni'n effro i'r pwysau y mae teuluoedd yn eu profi ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi nhw. 

"Ers mis Ebrill 2022, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi talu gwerth £16.7 miliwn i drigolion mewn perthynas â Chynlluniau Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi talu £5.8 miliwn i bron 29,000 o aelwydydd ers mis Hydref 2022 mewn perthynas â Chynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnig cymorth ariannol ychwanegol trwy ei Gynlluniau Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn. Mae'r cynllun yn cynnwys dau daliad (gwerth £50 a £75) i deuluoedd sydd â phlant o oedran addysg gorfodol.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi defnyddio cyllid pellach gwerth £50,000 i wneud Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i aelwydydd sydd angen y mwyaf o gymorth gyda'u costau tai. Mae hyn ar ben y £404,000 o Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn a wnaed o arian a gafodd ei ddyrannu i'r Cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

"Mae'r Cyngor wedi rhoi £50,000 ychwanegol i fanciau bwyd lleol i'w helpu nhw i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol." 

Cysylltwch â ni ar unrhyw adeg os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi drwy lenwi'r ffurflen 'cais am gymorth' ar-lein yn www.rctcbc.gov.uk/CostauByw.

Mae modd i chi hefyd gael cyngor ar y gwasanaethau sydd ar gael drwy gysylltu â Charfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Cymorth Grant neu Fenthyciad - efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi
  • RCT Switch - Cyngor diduedd a rhad ac am ddim ynglŷn â newid tariff
  • Cyngor ar sut i arbed ynni yn y cartref
  • Cyngor ynghylch dyled nwy, trydan a dŵr
  • Cyngor ynghylch gwneud yn fawr o’ch incwm a rheoli arian

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/GwresogiacArbed neu e-bostiwch y Garfan: GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk

Os ydych chi'n wynebu digartrefedd, mae modd i chi gael cymorth a chyngor drwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/digartrefeddneu ffoniwch 01443 495188.

Am fanylion llawn o leoliadau'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauCroesoynyGaeaf ac am gyngor cyffredinol ar y cymorth costau byw sydd ar gael, ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CostauByw.

Mae modd i chi ddod o hyd i wybodaeth ar y rhybuddion tywydd diweddaraf a diweddariadau am wasanaethau ar wefan y Cyngor www.rctcbc.gov.uk neu drwy ddilyn cyfrifon swyddogol y Cyngor ar Twitter a Facebook. 

Serch hynny, os oes gyda chi unrhyw broblemau brys, ffoniwch rif argyfwng tu allan i oriau y Cyngor ar 01443 425011.

Wedi ei bostio ar 23/01/2023