Skip to main content

Newyddion

Ailagor llwybr troed yn dilyn gwaith atgyweirio wal yn Aberdâr

Dechreuodd y gwaith ddechrau mis Mawrth 2025 er mwyn atgyweirio'r strwythur mawr ar y rhan o'r A4233 rhwng cylchfan Gadlys a'r gylchfan ger Tesco/McDonald's

23 Ebrill 2025

Gosod Paneli Solar bron wedi'i gwblhau yn Fferm Solar 6MW Coed-elái

Lai na phum mis ar ôl i'r gwaith adeiladu ddechrau'n swyddogol ar Fferm Solar Coed-elái, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Vital Energi yn dathlu filltir arwyddocaol.

23 Ebrill 2025

Oriau Agor dros Wyliau Banc y Pasg 2025

Oherwydd gwyliau'r Pasg, bydd y Cyngor (gan gynnwys ei ganolfan alwadau i gwsmeriaid) AR GAU ddydd Gwener, 18 Ebrill, a dydd Llun, 21 Ebrill – gan ailagor am 9am ddydd Mawrth, 22 Ebrill

17 Ebrill 2025

Cynllun lliniaru perygl llifogydd yn Abercynon wedi'i gwblhau

Dechreuodd y gwaith ar ddiwedd mis Ionawr 2025, gan geisio mynd i'r afael â'r broblem o ddŵr yn rhedeg oddi ar ochr y mynydd ac yn gorlifo i'r briffordd yn ystod cyfnodau o law trwm gan effeithio ar eiddo

16 Ebrill 2025

Cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau trafnidiaeth

Mae hyn yn cynnwys cyllid pwysig ar gyfer teithio llesol, ffyrdd cydnerth, diogelwch ar y ffyrdd, gwella cyfleusterau i gerddwyr ger ysgolion a ffyrdd heb eu mabwysiadu

15 Ebrill 2025

Creu 'm-WY' o BŴER drwy Ailgylchu Gwastraff Bwyd!

Cofiwch ailgylchu eich WYAU dros y Pasg - hyd yn oed y rhai sydd ddim wedi'u gwneud o siocled!

14 Ebrill 2025

Teithio'n rhatach ar y bysiau yn ystod gwyliau'r Pasg

Bydd modd i drigolion teithio ar fysiau'n rhatach unwaith eto, gyda phob taith sengl sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn costio dim mwy na £1. Bydd y cynnig yma ar gael yn ystod pythefnos gwyliau'r Pasg ym mis Ebrill 2025

11 Ebrill 2025

Pedwar Dosbarth Cynnal Dysgu newydd i gael eu sefydlu ym mis Medi

Bydd y cynigion yn cael eu rhoi ar waith o'r flwyddyn academaidd nesaf (2025/26) gan gynyddu cyfanswm nifer y dosbarthiadau yma o 48 i 52

11 Ebrill 2025

Cyllid newydd wedi'i sicrhau ar gyfer 27 o brosiectau lliniaru llifogydd yn ystod y flwyddyn nesaf

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau manylion y cyllid a fydd yn cael ei ddarparu i Gyngor Rhondda Cynon Taf yn ystod 2025/26 yn rhan o ddwy o'i rhaglenni – y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (£2.83 miliwn)...

11 Ebrill 2025

Gwaith adnewyddu'r ffordd gerbydau a marciau ffordd wrth Gyffordd Quarter Mile

Bydd modd i draffig trwodd ddefnyddio'r A4059 gyda goleuadau traffig dwyffordd (22-25 Ebrill), ond fydd y gyffordd ddim ar agor i draffig sy'n teithio i Abercynon ac oddi yno

10 Ebrill 2025

Chwilio Newyddion