Skip to main content

Newyddion

Cyngor Rhondda Cynon Taf yn llongyfarch Valley Veterans ar dderbyn Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol

Cyngor Rhondda Cynon Taf yn llongyfarch Valley Veterans ar dderbyn Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o ddathlu cyflawniad anhygoel grŵp Valley Veterans, sydd wedi'i anrhydeddu â Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol

19 Tachwedd 2025

Ailagor maes parcio canol tref Aberdâr ddydd Iau ar ôl cynllun gwella

Ailagor maes parcio canol tref Aberdâr ddydd Iau ar ôl cynllun gwella

Dechreuodd y Cyngor waith yn gynnar ym mis Medi 2025 er mwyn gwella mynediad i gerddwyr a draeniau, yn ogystal â gosod wyneb newydd ar ardal gyfan y maes parcio

19 Tachwedd 2025

Bydd Canolfan Hamdden Sobell yn elwa ar waith helaeth i'w phwll nofio y mis nesaf

Bydd Canolfan Hamdden Sobell yn elwa ar waith helaeth i'w phwll nofio y mis nesaf

Bydd Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, yn elwa ar waith helaeth i'w phwll nofio y mis nesaf, wrth i'r system awyru gyfan gael ei huwchraddio.

18 Tachwedd 2025

Tocynnau bws rhatach ar gyfer teithiau lleol dros gyfnod y Nadolig unwaith eto

Fydd tocynnau sengl am deithiau o fewn ffin y Fwrdeistref Sirol ddim yn costio mwy na £1.50 ar draws pob gweithredwr bysiau. Bydd hyn yn berthnasol drwy gydol mis Rhagfyr 2025

18 Tachwedd 2025

Ymestyn trefniadau cau maes parcio dros dro yng nghanol tref Aberdâr

Nodwch, bydd Maes Parcio Stryd y Dug yn Aberdâr ar gau tan yn hwyrach yn yr wythnos, gan fod y tywydd gwlyb iawn yn ddiweddar wedi cael effaith ar gynnydd

17 Tachwedd 2025

Rhybudd tywydd dydd Gwener yn newid i un AMBR a storm ag enw

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi newid ei rhybydd tywydd o law trwm i un AMBR ar gyfer dydd Gwener 14 Tachwedd, ac wedi enwi'r tywydd garw sydd ar ddod yn Storm Claudia

14 Tachwedd 2025

Bydd campfa ac ystafell droelli ar eu newydd wedd yn cael eu creu yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon

Bydd campfa ac ystafell droelli ar eu newydd wedd yn cael eu creu yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon, diolch i fuddsoddiad sylweddol gwerth £350,000.

14 Tachwedd 2025

Trigolion wedi colli DROS £180k mewn MIS trwy sgamiau!

Dyma rybudd i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ar ôl i drigolion golli dros £180,000 mewn MIS trwy sgamiau masnachwyr twyllodrus.

13 Tachwedd 2025

Y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi PUMED rhybudd tywydd mewn pythefnos

Dyma roi gwybod i drigolion a busnesau i baratoi ar gyfer glaw trwm, gyda llifogydd a tharfu posibl, ddydd Gwener 14 Tachwedd – yn enwedig mewn ardaloedd y mae glaw trwm wedi effeithio arnyn nhw yn flaenorol

12 Tachwedd 2025

Chwilio Newyddion