Skip to main content

Newyddion

Fideo argraff arlunydd yn dangos sut y gallai'r buddsoddiad arfaethedig mewn ysgol yn y Cymer edrych

Byddai'r buddsoddiad arfaethedig yn darparu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd i ddisgyblion 11-19 oed ar y safle presennol, gyda datblygiad modern a chwbl hygyrch newydd sbon

25 Chwefror 2026

Canolfan newydd i Gyn-filwyr yn cael ei lansio yng Nghanolfan Calon Taf, Pontypridd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi lansiad Canolfan Pontypridd i Gyn-filwyr, sef cyfres o sesiynau galw heibio wythnosol newydd fydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Calon Taf, Parc Coffa Ynysangharad

25 Chwefror 2026

Lansio Canolfannau Dementia yn Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Charfan Datblygu'r Gymuned RhCT Gyda'i Gilydd yn falch o gyhoeddi lansio cynllun peilot Canolfannau Dementia newydd mewn 3 llyfrgell yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth

25 Chwefror 2026

Newidiadau i lwybr bws yn ystod gwaith ar brif bibell ddŵr yn Hirwaun

Bydd angen i Dŵr Cymru gau Teras Cynon. Bydd y gwaith hanfodol yma'n cael ei gynnal o ddydd Llun 2 Mawrth tan ddydd Mercher 4 Mawrth

24 Chwefror 2026

Buddsoddiad a gefnogir gan y Cyngor yn dod â 27 o gartrefi fforddiadwy newydd i Ben-y-graig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cefnogi'r gwaith o ddarparu 27 o gartrefi newydd fforddiadwy ac ynni-effeithlon ar hen safle Ysgol Iau Pen-y-graig, gan nodi pennod newydd i leoliad cymunedol adnabyddus.

20 Chwefror 2026

Does unman gwell nag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda i ddathlu'r Pasg!

Mae'r gwanwyn ar ei ffordd, ac mae hynny'n golygu un peth yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda... mae achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg yn dychwelyd ar gyfer 2026!

19 Chwefror 2026

Cyllid ychwanegol wedi'i gynnig ar gyfer gwasanaethau allweddol a meysydd buddsoddi o flaenoriaeth

Byddai'r cyllid ychwanegol yma'n buddsoddi rhagor mewn blaenoriaethau megis priffyrdd, ffyrdd heb eu mabwysiadu, strwythurau, gwaith lliniaru llifogydd, parciau a mannau gwyrdd, canolfannau hamdden, seilwaith ysgolion a gosod...

19 Chwefror 2026

Ymchwilio'r tir ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd Treherbert

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd gweithgarwch cychwynnol yn dechrau'r wythnos nesaf yn Ffordd y Rhigos a Stryd Abertonllwyd, Treherbert, yn rhan o gamau nesaf y gwaith lliniaru llifogydd

19 Chwefror 2026

Dathliadau wrth i ddwy ysgol newydd o'r radd flaenaf agor yn swyddogol yn Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi agor dau gyfleuster addysg newydd mawr yn swyddogol - Ysgol Afon Wen yn y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun.

13 Chwefror 2026

Gwaith atgyweirio wal afon wedi'i gwblhau mewn stryd yn Abercynon

Dechreuodd y gwaith angenrheidiol i atgyweirio rhan 5 metr o'r strwythur yn Rhes yr Afon ganol mis Ionawr 2026, ar ôl iddi gael ei difrodi gan stormydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

13 Chwefror 2026

Chwilio Newyddion